{"id":1296,"date":"2024-12-10T16:21:56","date_gmt":"2024-12-10T16:21:56","guid":{"rendered":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/?p=1296"},"modified":"2025-10-11T16:32:31","modified_gmt":"2025-10-11T15:32:31","slug":"bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/","title":{"rendered":"Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h3>Cynhaliodd y cogydd adnabyddus a chyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo ddigwyddiad pryd o fwyd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb ym Mhorth Eirias fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai<\/h3>\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<p>Cynhaliodd y cogydd enwog Bryn Williams brofiad Cwrdd y Cogydd i blant ysgolion lleol fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai.<\/p>\n<p>Roedd y digwyddiad, ym <a href=\"https:\/\/portheirias.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">mwyty Porth Eirias Bryn<\/a>, yn cynnwys pryd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb i roi cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i&#8217;r cogydd byd-enwog.<\/p>\n<p>Bu disgyblion o ysgolion Conwy, Dinbych, Gwynedd a M\u00f4n yn y digwyddiad, yn ogystal \u00e2 dysgwyr sy&#8217;n dilyn cwrs <a href=\"https:\/\/www.gllm.ac.uk\/cy\/courses\/hospitality-and-catering-level-1\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Lefel 1 mewn Lletygarwch ac Arlwyo<\/a> yng Ngholeg Llandrillo. \u2060<\/p>\n<p>Roedd pawb wedi cael gwahoddiad arbennig ar \u00f4l dangos ymroddiad ac addewid yn eu hastudiaethau coginio.<\/p>\n<\/div>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"YouTube video player\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/8vkJ6xaJ7ag?si=AODD5-mUP2kJA9jw\" width=\"560\" height=\"315\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\" data-mce-fragment=\"1\"><\/iframe><\/p>\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<p>Dywedodd Bryn, a ddysgodd ei grefft yng Ngholeg Llandrillo: \u201cMae digwyddiadau fel hyn mor bwysig oherwydd rydyn ni eisiau cael cymaint o bobl ifanc \u00e2 phosib i mewn i\u2019n diwydiant, ac mae hon yn ffordd wych o roi cipolwg iddyn nhw cyn iddyn nhw fynd o\u2019r ysgol i\u2019r coleg.<\/p>\n<p>Mae cynnal digwyddiad fel yn yn bwysig i&#8217;r diwydiant lleol hefyd.<\/p>\n<p>Mae arnon ni angen rhagor o bobl dalentog a chreadigol yn y diwydiant.<\/p>\n<p>Twristiaeth yw ein hanfod yng ngogledd Cyrmu. Felly pan ddaw ymwelwyr yma mae angen i ni gynnig bwytai, tafarndai, caffis, siopau becws a siopao cigydd gwych \u2013 mae angen y cyfan arnom ni. Felly mae&#8217;r digwyddiad yn bwysig i dynnu sylw at yr hyn sydd gan ogledd Cymru i\u2019w gynnig, o&#8217;r cynhwysion i\u2019r sgiliau y byddant yn eu dysgu yn y coleg.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd <a href=\"https:\/\/bryn-williams.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Bryn<\/a>, a enillodd gystadleuaeth deledu&#8217;r Great British Menu yn 2006, fod y sgiliau a ddysgodd yng Ngholeg Llandrillo wedi rhoi&#8217;r blaen iddo pan symudodd i Lundain a dechrau gweithio i&#8217;r cogyddion byd-enwog Marco Pierre White a Michel Roux Jr.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i\u2019n gwybod ei fod yn goleg da pan oeddwn i yno,\u201d meddai. \u201cRoedd gen i rai darlithwyr gwych yno &#8211; Mike Evans, Brian Leather, David Phillips. Es i&#8217;r Iseldiroedd am brofiad gwaith, cystadlu mewn cystadleuaeth, felly roeddech chi&#8217;n gwybod eich bod chi&#8217;n cael profiad gwych.<\/p>\n<\/div>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1298\" src=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp\" alt=\"\" width=\"1000\" height=\"667\" srcset=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp 1000w, https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9-300x200.webp 300w, https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9-768x512.webp 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/p>\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<p>\u201cOnd pan adewais i fynd i Lundain, dyna pryd sylweddolais pa mor dda oedd fy addysg yng Ngholeg Llandrillo. Roeddwn i\u2019n gweithio i Marco Pierre White &#8211; roeddwn i\u2019n coginio ar y lefel uchaf, ac roeddwn i\u2019n gallu gwneud hynny, i gyd oherwydd Coleg Llandrillo.\u201d<\/p>\n<p>Yn y digwyddiad ym Mhorth Eirias, holwyd Bryn gan y myfyrwyr am ei yrfa, ei hoff brydau i\u2019w creu, a pha gyngor oedd ganddo i bobl ifanc oedd \u00e2 diddordeb yn y sector lletygarwch.<\/p>\n<p>Dywedodd: \u201cCanfyddwch pa lwybr rydych chi am ei ddilyn. Gallai fod yn gaffi, bwyty, tafarn, <em>brasserie<\/em>, becws. Unwaith rydych chi&#8217;n dod o hyd i&#8217;r hyn sy&#8217;n eich gwneud chi&#8217;n hapus, cadwch at hynny am dair neu bedair, pum mlynedd. Y swydd gyntaf honno yw&#8217;r peth pwysicaf, i chi&#8217;n cael gwir wreiddiau yn eich sector.<\/p>\n<p>\u201cCofiwch, ewch i weithio rhywle lle rydych chi&#8217;n gwybod y byddwch chi&#8217;n datblygu&#8217;ch addysg, fel eich bod yn gwybod eich bod chi&#8217;n mynd i adael gyda sgiliau gwell na phan aethoch chi yno.\u201d<\/p>\n<p>Yn y digwyddiad ym Mhorth Eirias, cafodd myfyrwyr a\u2019u hathrawon flas ar gwrs cyntaf croquette cig eidion Cymreig gyda remoulade seleriac, prif gwrs lleden y m\u00f4r wedi&#8217;i phobi gyda thatws stwnsh a dresin madarch a chig moch, ac yna pwdin Alaska wedi&#8217;i bobi gyda hufen i\u00e2 marmal\u00ead oren a phwdin Nadolig. Roedd dewisiadau llysieuol hefyd, sef cwrs cyntaf tarten betys gyda mousse tatws a chaws, a phrif gwrs &#8216;Wellington&#8217; madarch gwyllt.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1299\" src=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bakedalaskas_fdc6383b1b9f0ef98531c0195658efd6.webp\" alt=\"\" width=\"1000\" height=\"410\" srcset=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bakedalaskas_fdc6383b1b9f0ef98531c0195658efd6.webp 1000w, https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bakedalaskas_fdc6383b1b9f0ef98531c0195658efd6-300x123.webp 300w, https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bakedalaskas_fdc6383b1b9f0ef98531c0195658efd6-768x315.webp 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/p>\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<p>Roedd disgyblion o Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol David Hughes (Porthaethwy), Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Uwchradd Caergybi, Ysgol Syr Thomas Jones (Amlwch), Ysgol John Bright (Llandudno), Ysgol Aberconwy (Conwy), Ysgol y Creuddyn (Bae Penrhyn), Ysgol Emrys ap Iwan (Abergele), Ysgol Friars (Bangor), Ysgol Dyffryn Ogwen (Bethesda) ac Ysgol Tryfan (Bangor) yn y digwyddiad.<\/p>\n<p>Disgrifiodd Mandy Florence, pennaeth bwyd a maeth yn Ysgol David Hughes, y digwyddiad fel, \u201cHollol wych \u2013 profiad mor anhygoel i\u2019n dysgwyr\u201d.<\/p>\n<p>Ychwanegodd: \u201cRoedd y bwyd yn hyfryd ac roedd y gwasanaeth yn anhygoel. Mae cyfleoedd fel hyn i\u2019n pobl ifanc yn wirioneddol bwysig, a gobeithio y gwelwn ni fwy o ddigwyddiadau fel hyn. Mae gen i un bachgen ifanc gyda mi heno sydd ddim o reidrwydd yn gwybod beth mae o am ei wneud ar \u00f4l gadael yr ysgol, ond mae&#8217;n fyfyriwr bwyd rhagorol ac mae&#8217;n wych iddo weld y cyfleoedd sydd ar gael.<\/p>\n<p>\u201cMae ganddyn nhw eu harholiadau ymarferol ar \u00f4l y Nadolig, felly mae&#8217;n rhaid iddyn nhw gynllunio, paratoi a choginio tri chwrs gyda chyfwydydd. Roedd yn wych gallu dweud, &#8216;Meddyliwch am faint y dognau, edrychwch ar y ffordd y mae wedi&#8217;i gyflwyno, edrychwch ar gydbwysedd y gweadeddau a&#8217;r gwahanol flasau. Felly roedd hefyd yn brofiad da iawn iddyn nhw i baratoi ar gyfer eu arholiadau.\u201d<\/p>\n<\/div>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1300\" src=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents3_243c7a9cff311f055297d7f8d0132e11.webp\" alt=\"\" width=\"1000\" height=\"410\" srcset=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents3_243c7a9cff311f055297d7f8d0132e11.webp 1000w, https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents3_243c7a9cff311f055297d7f8d0132e11-300x123.webp 300w, https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents3_243c7a9cff311f055297d7f8d0132e11-768x315.webp 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/p>\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<div class=\"richText cms-textblock cols_one\">\n<p>Dywedodd Morgan Hill-Gardener, myfyriwr Blwyddyn 10 yn Ysgol John Bright: \u201cDoeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ngwahodd i ddigwyddiad fel hwn, roeddwn i mor falch o gael gwahoddiad. Mi wnes i fwynhau&#8217;r profiad yn fawr &#8211; roedd y prydau yn odidog ac mae Bryn yn neis iawn. Rwyf wrth fy modd \u00e2\u2019r syniad o hyn, a byddai\u2019n braf gweithio yma rhyw ddydd!\u201d<\/p>\n<p>Mae pob ysgol a fynychodd wedi bod yn rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai. Bwriad y Cynllun Talent Twristiaeth, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy&#8217;r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yw ysgogi pobl ifanc a rhoi gwybod iddyn nhw am y cyfleoedd tymor hir sydd ar gael iddyn nhw yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru.<\/p>\n<p>Yn gynharach y tymor hwn, ymwelodd cynrychiolwyr y Cynllun Talent Twristiaeth ag ysgolion i roi blas i fyfyrwyr ar y diwydiant lletygarwch trwy arddangosiadau, gweithdai rhyngweithiol a heriau coginio.<\/p>\n<p>Drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr, bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith amhrisiadwy i\u2019r ysgolion mewn busnesau amlwg, tra hefyd yn dathlu treftadaeth unigryw gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar ddwyieithrwydd, defnyddio cynnyrch lleol, a\u2019r defnydd o gyfryngau cymdeithasol mewn marchnata twristiaeth i greu naws am le.<\/p>\n<p><strong>I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai, <\/strong><a href=\"https:\/\/tourismtalentpathfinder.gllm.ac.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>cliciwch yma<\/strong><\/a><strong> neu ewch i tourismtalentpathfinder.gllm.ac.uk<\/strong><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cynhaliodd y cogydd adnabyddus a chyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo ddigwyddiad pryd o fwyd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb ym Mhorth Eirias fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai Cynhaliodd y cogydd enwog Bryn Williams brofiad Cwrdd y Cogydd i blant ysgolion lleol fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai. Roedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1298,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1296","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorised"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.3 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol - Academi Croeso<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol - Academi Croeso\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cynhaliodd y cogydd adnabyddus a chyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo ddigwyddiad pryd o fwyd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb ym Mhorth Eirias fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai Cynhaliodd y cogydd enwog Bryn Williams brofiad Cwrdd y Cogydd i blant ysgolion lleol fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai. Roedd [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Academi Croeso\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-12-10T16:21:56+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-10-11T15:32:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"667\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/webp\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"dw-gIsT-admin\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"dw-gIsT-admin\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/\",\"url\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/\",\"name\":\"Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol - Academi Croeso\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp\",\"datePublished\":\"2024-12-10T16:21:56+00:00\",\"dateModified\":\"2025-10-11T15:32:31+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/#\/schema\/person\/e516009272e90a3ed8c97db26d797d31\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[[\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/\"]]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp\",\"contentUrl\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp\",\"width\":1000,\"height\":667},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Bryn Williams hosts exclusive Chef\u2019s Table experience for local school students\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/\",\"name\":\"Essence\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/#\/schema\/person\/e516009272e90a3ed8c97db26d797d31\",\"name\":\"dw-gIsT-admin\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1906c3f72fefdba99dd372f91deca6f3e629bb4bab44b559835f5ff66270f747?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1906c3f72fefdba99dd372f91deca6f3e629bb4bab44b559835f5ff66270f747?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"dw-gIsT-admin\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/designweb.co.uk\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol - Academi Croeso","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol - Academi Croeso","og_description":"Cynhaliodd y cogydd adnabyddus a chyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo ddigwyddiad pryd o fwyd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb ym Mhorth Eirias fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai Cynhaliodd y cogydd enwog Bryn Williams brofiad Cwrdd y Cogydd i blant ysgolion lleol fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Gr\u0175p Llandrillo Menai. Roedd [&hellip;]","og_url":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/","og_site_name":"Academi Croeso","article_published_time":"2024-12-10T16:21:56+00:00","article_modified_time":"2025-10-11T15:32:31+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":667,"url":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp","type":"image\/webp"}],"author":"dw-gIsT-admin","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"dw-gIsT-admin","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/","url":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/","name":"Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol - Academi Croeso","isPartOf":{"@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp","datePublished":"2024-12-10T16:21:56+00:00","dateModified":"2025-10-11T15:32:31+00:00","author":{"@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/#\/schema\/person\/e516009272e90a3ed8c97db26d797d31"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":[["https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/"]]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#primaryimage","url":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp","contentUrl":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Bryntalkingtostudents_2024-12-18-154337_nubk_ad447dc8558a45b08a250e84e49235e9.webp","width":1000,"height":667},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/bryn-williams-hosts-exclusive-chefs-table-experience-for-local-school-students\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Bryn Williams hosts exclusive Chef\u2019s Table experience for local school students"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/","name":"Essence","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/#\/schema\/person\/e516009272e90a3ed8c97db26d797d31","name":"dw-gIsT-admin","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1906c3f72fefdba99dd372f91deca6f3e629bb4bab44b559835f5ff66270f747?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/1906c3f72fefdba99dd372f91deca6f3e629bb4bab44b559835f5ff66270f747?s=96&d=mm&r=g","caption":"dw-gIsT-admin"},"sameAs":["https:\/\/designweb.co.uk"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1296","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1296"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1296\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1301,"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1296\/revisions\/1301"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1298"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1296"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1296"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/academicroeso.gllm.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1296"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}