Yn llunio dyfodol twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru

Yn llunio dyfodol twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru

Campws arloesol sy'n ymestyn ledled gogledd Cymru ac sy'n canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant o'r radd flaenaf ym maes twristiaeth a lletygarwch.

Gyda'n gilydd rydym ni'n sicrhau bod gogledd Cymru mewn sefyllfa i arwain y ffordd o ran addysg ac arloesi ym maes twristiaeth a lletygarwch cynaliadwy.

Gyrfaoedd ym maes Twristiaeth a Lletygarwch

Mae gogledd Cymru'n cynnig pob math o gyfleoedd am yrfaoedd diddorol ac unigryw yn y sector twristiaeth a lletygarwch

Hyfforddiant ym maes Twristiaeth a Lletygarwch

Hyfforddiant a chefnogaeth o'r radd flaenaf ac sy'n benodol i'r sector yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â darparwyr lleol a rhanbarthol.

Cyflogwyr ym maes Twristiaeth a Lletygarwch

Drwy'r model Hwb a Lloerennau, mae'r Academi Croeso'n dod â sefydliadau blaenllaw yn y diwydiant ar ei gilydd er mwyn gallu manteisio ar eu harbenigedd a gweithio mewn partneriaeth

Cyfleusterau

Trwy ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar draws nifer o safleoedd, rydym ni'n creu amgylchedd ysgogol sy'n denu talentau byd-eang i gael yr hyfforddiant gorau posibl yn y diwydiant.

Ein Partneriaid

Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.