Gyrfa sy'n Llawn Posibiliadau
Llwybrau Di-ben-draw, Dewch o Hyd i'ch Llwybr Chi
Yng ngogledd Cymru ceir rhai o fwytai, gwestai a busnesau lletygarwch gorau a mwyaf unigryw’r Deyrnas Unedig. O fwytai a chanddynt sêr Michelin i letyau moethus, mae lletygarwch yn llwybr gwych i yrfa tymor hir.
Disgwylir i'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru ehangu 2.1% rhwng 2021 a 2027.
- Barista
- Cogydd
- Derbynnydd
- Rheolwr Digwyddiadau
- Cynorthwyydd Cyfleusterau
- Cynorthwyydd Gwasanaeth Bwyd
- Cynrychiolydd Gwyliau
- Rheolwr Gwesty
- Derbynnydd Gwesty
- Swyddog Llynges Fasnach
- Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored
- Croeso i’r Bwyty
- Rheolwr Bwyty
- Rheolwr Canolfan Chwaraeon a Hamdden
- Tywysydd
- Cynorthwyydd Canolfan Gwybodaeth i Dwristiaid
- Cynghorydd Teithio
- Rheolwr Asiantaeth Deithio
- Cynllunydd Priodas
Hyfforddi'r Tu Hwnt i'r Ystafell Ddosbarth
Mae sawl mantais i addysg ym maes lletygarwch ac mae'n cynnig pob math o bosibiliadau i'r dyfodol. Dyma rai o'r sgiliau y gallech chi eu meistroli;
Sgiliau Ymarferol
Un o'r pethau gorau am ddatblygu gyrfa mewn lletygarwch drwy'r Academi Croeso yw'r profiad ymarferol a geir. Mae mwyafrif y rhaglenni dysgu yn mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn cynnig cyfleoedd i gael profiad ymarferol dan law gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Sgiliau Amlbwrpas
Gallai gweithio yn y diwydiant lletygarwch eich arfogi ag amrywiaeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo i swyddi eraill yn y diwydiant. O reoli cyfryngau cymdeithasol i reoli gwesty, mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw.
Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol
Ar ben y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael yng ngogledd Cymru, bydd y profiadau a gewch yn fyd-eang. Bydd cyfarfod â phobl newydd yn gyson a meithrin dealltwriaeth ryngwladol yn rhoi i chi ymwybyddiaeth ddiwylliannol ehangach na gwybodaeth leol yn unig.
Sgiliau Ymwneud â Phobl
Byddwch yn meithrin sgiliau cyfathrebu cryf drwy gyfarfod pobl newydd a gweithio gyda'r cyhoedd. Mae'r sgiliau rhyngbersonol hyn yn hanfodol i bob agwedd ar eich bywyd, a byddant o fudd i chi yn eich bywyd personol a'ch datblygiad proffesiynol.
Dyfodol Twristiaeth
Manteisiwch ar y cyfleoedd gyrfa unigryw ym maes twristiaeth sydd ar gael yma ar garreg eich drws.
| Age 16 - 18 |
Age 18+ |
|
|---|---|---|
| Apprenticeships (Level 2-5) | ||
| Degree Apprenticeships (Level 6) | ||
| Employment | ||
| Further Education (A-levels, BTEC or other Level 3 qualifications) | ||
| Higher Education (University) | ||
| Gap Year | ||
| Jobs Growth Wales+ (16-19 years) | ||
| Self-employment / Entrepreneur | ||
| Volunteering |
Llwybrau Hyfforddiant
Mae'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn sector allweddol yng Ngogledd Cymru, ac o fewn yr ardal raglen gyffrous hon, mae gennych y cyfle i astudio o Lefel 2 hyd at lefel gradd.
Dechreuwch Eich Taith Heddiw
Defnyddiwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn yr Academi Croeso neu i ofyn unrhyw gwestiynau
Adnoddau defnyddiol eraill
Ein Partneriaid
Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.