Efndir

Campws arloesol sy'n ymestyn ledled gogledd Cymru ac sy'n canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant o'r radd flaenaf ym maes twristiaeth a lletygarwch.

Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, mae'r Academi Croeso yn canolbwyntio ar weddnewid delwedd y sector yn y rhanbarth trwy ymgysylltu ag ysgolion i ddenu gweithwyr ifanc talentog, cefnogi busnesau bach a chanolig, a rhoi i chi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y diwydiant hwn sy'n prysur dyfu.

Mae ein cenhadaeth yn syml: sicrhau bod gwasanaethau twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru gyda'r gorau yn y byd drwy wneud y defnydd gorau posibl o'r bobl a'r lleoliadau sy'n gwneud yr ardal yn arbennig.

Trwy'r model Hwb a Lloerennau, mae'r Academi Croeso yn dod â busnesau blaenllaw yng ngogledd Cymru at ei gilydd i hyrwyddo cynaliadwyedd, digideiddio, arloesi, a chyfoethogi diwylliannol.

Trwy ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar draws nifer o safleoedd, rydym ni'n creu amgylchedd ysgogol sy'n denu talentau byd-eang tra hefyd yn sicrhau bod cymunedau lleol yn cael yr hyfforddiant gorau posibl yn y diwydiant.

Trwy gynnig cyrsiau llawn a rhan-amser, hyfforddiant sgiliau masnachol, a phrentisiaethau, mae'r Academi Croeso'n cynnig llwybrau dysgu hyblyg sydd wedi'u teilwra i'ch anghenion chi ac anghenion y sector.

Ymunwch â ni i sicrhau bod gogledd Cymru mewn sefyllfa i arwain y ffordd o ran addysg ac arloesi ym maes twristiaeth a lletygarwch.

Gweledigaeth

Bod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer addysg ym maes twristiaeth a lletygarwch, gan ddenu gweithwyr newydd i'r maes, trawsnewid y gweithlu, a diogelu treftadaeth gogledd Cymru.

  • Canolfan Ragoriaeth
  • Denu
  • Gwella Sgiliau
  • Diogelu Treftadaeth

Cenhadaeth

Trawsnewid eich diddordeb yn sgiliau o'r radd flaenaf er budd y sector twristiaeth a lletygarwch, tra hefyd yn ysgogi twf economaidd yn y rhanbarth ac yn tanio syniadau arloesol.

  • Trawsnewid
  • Sgiliau o'r Radd Flaenaf
  • Diddordeb

Gwerthoedd

Ansawdd⁠

Ansawdd⁠ Ymdrechu i ragori ym mhopeth a wnawn er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus.

Cynaliadwyedd

Gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy drwy helpu i adeiladu cymunedau gwydn sy'n gallu addasu i newid.

Cydweithio

Cydweithio â phartneriaid er budd y rhanbarth.

Cymuned

Diogelu diwylliant a hanes gogledd Cymru.

Pobl / Cynhwysiant

Pobl / Cynhwysiant Sicrhau bob pawb yn cael eu cynnwys, eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Arloesi

Bod ar flaen y gad wrth gynnig gwasanaethau addysgol.

Y ⁠Cyflogwyr

Mae'r Academi Croeso'n dod â sefydliadau blaenllaw yn y diwydiant ar ei gilydd er mwyn gallu manteisio ar eu harbenigedd a gweithio mewn partneriaeth; Portmeirion, Zip World, Theatr Clwyd, Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (a rhagor o bartneriaethau cyffrous ar y gweill).

Mae'r Academi Croeso'n gweithio gydag ystod o fusnesau lleol bach a chanolig i ehangu rhychwant ac ansawdd y prentisiaethau sydd ar gael ym maes twristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth yn sylweddol.

Ein Partneriaid

Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.