Yn cydweithio a'r goreuon ym maes Twristiaeth a Lletygarwch
Yn Cynnig Cyfleoedd drwy Arloesi
Mae model Hwb a Lloerennau'r Academi Croeso'n creu uniad grymus o sefydliadau blaenllaw fel Portmeirion, Zip World, Theatr Clwyd, Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – gyda hyd yn oed rhagor o bartneriaethau cyffrous ar y gweill.
Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ar draws sawl safle, rydym ni'n datblygu rhwydwaith fywiog a blaengar sy'n denu talent o bob cwr o'r byd tra hefyd yn cynnig cyfleoedd i gymunedau lleol. Ein cenhadaeth: cynnig hyfforddiant o'r radd flaenaf yn y diwydiant mewn ffordd sy'n grymuso unigolion, yn cryfhau'r economi leol, ac yn cynnig cyfleoedd anhygoel i bobl ar eu carreg drws eu hunain.
Cyflogwyr Lleol a Rhanbarthol
Mae'r Academi Croeso'n falch o weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o fusnesau lleol bach a chanolig i ehangu rhychwant yr hyfforddiant sydd ar gael ym maes twristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth yn sylweddol.
Drwy weithio ochr yn ochr gyda darparwyr hyfforddiant lleol a rhanbarthol, rydym ni'n cynnig cyfleoedd hyfforddi pwrpasol, addas i'r sector, a hyblyg sy'n annog cydweithredu, yn codi safon y sgiliau a ddatblygir, ac yn sicrhau bod dysgwyr a busnesau'n elwa ar gefnogaeth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.
Dod yn Bartner yn yr Academi
Os ydych chi'n fusnes twristiaeth neu letygarwch yng ngogledd Cymru sydd â diddordeb mewn cyfleoedd hyfforddi a gwaith partneriaeth, cysylltwch â'r tîm.
Ein Partneriaid
Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.