Gyrfaoedd ym maes Twristiaeth

Mae Pob Diwrnod yn Antur

Mae'r Byd i Gyd o'ch Blaen Chi

O fynyddoedd uchaf Cymru a Lloegr i safleoedd treftadaeth y byd, mae'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru'n fywiog ac yn llawn antur! Mae galw mawr am bobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru ac mae'n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa tymor hir.

Gyrfaoedd ym maes Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

Mae gogledd Cymru'n un o'r cyrchfannau harddaf a mwyaf arbennig ym Mhrydain, ac yn lle perffaith i ddatblygu gyrfa ym maes twristiaeth. Does wybod i ble y gallai fynd â chi!

  • Gweinyddwr Celfyddydau
  • Derbynnydd
  • Rheolwr Gwledig
  • Ranger Gwledig
  • Cynrychiolydd Gwyliau
  • Rheolwr Amgueddfa neu Oriel
  • Rheolwr Adloniant
  • Rheolwr Bwyty
  • Rheolwr Canolfan Chwaraeon a Hamdden
  • Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol
  • Tywysydd
  • Cynorthwyydd Canolfan Gwybodaeth i Dwristiaid
  • Rheolwr Trên
  • Gyrrwr Tram
  • Cynghorydd Teithio
  • Rheolwr Asiantaeth Deithio

Hyfforddi'r Tu Hwnt i'r Ystafell Ddosbarth

Mae sawl mantais i addysg ym maes twristiaeth ac mae'n cynnig pob math o gyfleoedd cyffrous. Dyma rai o'r sgiliau y gallech chi gael budd ohonynt:

Sgiliau Ymarferol

Un o'r pethau gorau am ddatblygu gyrfa mewn twristiaeth drwy'r Academi Croeso yw'r profiad ymarferol a geir. Nid yn yr ystafell ddosbarth yn unig y cynhelir y rhan fwyaf o'r rhaglenni dysgu ac maent yn cynnig cyfleoedd i gael profiad ymarferol dan law gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Twf Personol

Gallai gweithio yn y diwydiant twristiaeth eich arfogi ag amrywiaeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo i swyddi eraill yn y sector. O reoli cyfryngau cymdeithasol i reoli gwesty, mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw.

Cyfoeth Diwylliannol

Er bod llawer o gyfleoedd i weithio yn y diwydiant lletygarwch yng ngogledd Cymru, bydd eich profiadau'n fyd-eang. Bydd cyfarfod â phobl newydd yn gyson a chael profiadau amrywiol yn arwain at ymwybyddiaeth ddiwylliannol y gellir ei throsglwyddo i unrhyw yrfa.

Ymwybyddiaeth o'r Amgylchedd

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gref o sut i weithio'n gynaliadwy – gan leihau gwastraff, cefnogi cynnyrch lleol, a diogelu'r tirweddau sy'n gwneud gogledd Cymru'n unigryw. Byddwch yn meithrin sgiliau i gael dylanwad cadarnhaol, ym mhle bynnag yr aiff eich gyrfa â chi.

Dyfodol Twristiaeth

Mae’r diwydiant twristiaeth yn datblygu'n gyson ac mae’n cynnig dewis amrywiol o lwybrau gyrfa.

  Age
16 - 18
Age
18+
Apprenticeships (Level 2-5)
Degree Apprenticeships (Level 6)
Employment
Further Education (A-levels, BTEC or other Level 3 qualifications)
Higher Education (University)
Gap Year
Jobs Growth Wales+ (16-19 years)
Self-employment / Entrepreneur
Volunteering

Llwybrau Hyfforddi

Mae twristiaeth a lletygarwch yn sector bwysig yng ngogledd Cymru, ac mae'r maes rhaglen cyffrous hwn yn cynnig cyfleoedd i astudio o Lefel 2 hyd at lefel gradd. Mae yna hefyd brentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi masnachol ar gael gyda busnesau blaenllaw yn y sector.

Dechreuwch Eich Taith Heddiw

Defnyddiwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn yr Academi Croeso neu i ofyn unrhyw gwestiynau

Name

Cyflogwyr yn Arwain y Ffordd

Ein Partneriaid

Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.