Dewch i weld pa gyfleoedd gyrfa diddorol ac unigryw sydd ar gael yn y rhanbarth
Mae Antur yn eich Aros yng Ngogledd Cymru
Mae gogledd Cymru'n cynnig pob math o gyfleoedd am yrfaoedd diddorol ac unigryw mewn sectorau amrywiol yn y sector twristiaeth a lletygarwch.
Mae'r sector twristiaeth yn cyfrannu tua £2 biliwn i economi gogledd Cymru bob blwyddyn.
Dewch i Weld Pa Gyfleoedd Cyffrous sydd gan y Sector i'w Cynnig
Llwybrau Hyfforddi
Mae twristiaeth a lletygarwch yn sector bwysig yng ngogledd Cymru, ac mae'r maes rhaglen cyffrous hwn yn cynnig cyfleoedd i astudio o Lefel 2 hyd at lefel gradd. Mae yna hefyd brentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi masnachol ar gael gyda busnesau blaenllaw yn y sector.
Dechreuwch Eich Taith Heddiw
Defnyddiwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn yr Academi Croeso neu i ofyn unrhyw gwestiynau
Adnoddau defnyddiol eraill
Ein Partneriaid
Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.