Yr Hwb

Hwb Arloesi Bywiog

Arwain Rhagoriaeth ym maes Twristiaeth a Lletygarwch

Nod yr Academi Croeso yw trawsnewid y sector twristiaeth a lletygarwch drwy fodel Hwb a Lloerennau dynamig a fydd yn creu cyfleoedd hyfforddi newydd ac yn cefnogi twf y sector twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru.

Bydd yn cyflawni hyn drwy fuddsoddi mewn model Hwb a Lloerennau, gan ddwyn ynghyd Hwb hyfforddi o'r radd flaenaf ar gampws GLlM yn Llandrillo-yn-Rhos a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu cymwysterau Lefel 1 i Lefel 6 ym maes twristiaeth a lletygarwch, â rhwydwaith o loerennau hyfforddi a fydd wedi'u lleoli mewn busnesau preifat blaenllaw yn y rhanbarth.

Bydd cyfleoedd hyfforddi ac addysgu yn yr Hwb yn rhoi sgiliau a phrofiad hanfodol i chi i’ch paratoi ar gyfer gyrfa newydd gyffrous ym maes twristiaeth a lletygarwch, beth bynnag fo'ch cefndir, neu'n mireinio'ch cryfderau presennol fel gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant.

Buddsoddi yn Eich Dyfodol

Gyda'i gilydd, bydd yr Hwb a'r Lloerennau'n sicrhau mynediad eang i adnoddau a chyfleoedd drwy greu campws a fydd yn gweithredu ledled gogledd Cymru i gefnogi prif ddarpariaethau'r rhanbarth ym maes twristiaeth: Treftadaeth, Iaith a Diwylliant, yr Awyr Agored, a Bwyd a Lletygarwch, gan weddnewid y sector drwy ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, digideiddio ac arloesi, a phwysigrwydd lle (diwylliant, iaith a ⁠thirwedd).

Ein Partneriaid

Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.