Mae ar Leoedd Arbennig Angen Pobl Arbennig



























Gyda chefnogaeth miliynau o aelodau, gwirfoddolwyr, staff a chyfranwyr, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhoi sylw i natur, harddwch a hanes fel bod pawb yn gallu eu mwynhau.
Yng ngogledd Cymru, mae eu timau ymroddedig yn gofalu am filltiroedd o arfordir, coetiroedd, cefn gwlad ac adeiladau hanesyddol. Maen nhw’n gweithio’n galed i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad gwerth chweil, bob tro. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfoeth o sgiliau a phrofiadau, ac yn sgil y cydweithio hwn bydd y rhain yn cael eu defnyddio i gynnig cyfleoedd gwerthfawr i chi
Cyfleoedd Hyfforddi
Mae'r Academi Croeso'n cydweithio â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnig nifer o brentisiaethau bob blwyddyn a fydd yn cynnwys prentisiaethau Lefel 2, Lefel 3 a Lefel Uwch.
a llawer mwy!
Safleoedd Treftadaeth Cenedlaethol
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ymrwymo i warchod a diogelu safleoedd treftadaeth naturiol a diwylliannol, gan ganiatáu i genedlaethau’r dyfodol fwynhau lleoedd sy’n arwyddocaol yn hanesyddol ac yn amgylcheddol, dysgu amdanynt a dysgu am eu cadwraeth.
Bydd prentisiaeth yma’n cynyddu eich ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu treftadaeth drwy fanteisio ar eu hadnoddau a dysgu o’u profiad.
Dechreuwch Eich Taith Heddiw
Defnyddiwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn yr Academi Croeso neu i ofyn unrhyw gwestiynau
Adnoddau defnyddiol eraill
Ein Partneriaid
Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.


