Portmeirion

Byddwch yn rhan o Hud Portmeirion

Yn ogystal â’i bensaernïaeth a’i leoliad a’i erddi isdrofannol, mae gan bentref Portmeirion ddau westy, clwstwr o fythynnod hunanarlwyo, nifer o siopau, caffis, bwytai, sba a gelateria Eidalaidd.

Ymunwch â’r tîm ym Mhortmeirion i feithrin sgiliau o’r radd flaenaf ym maes twristiaeth a lletygarwch.

Cyfleoedd Hyfforddi

Mae'r Academi Croeso'n cydweithio â Phortmeirion i gynnig nifer o brentisiaethau bob blwyddyn a fydd yn cynnwys prentisiaethau Lefel 2, Lefel 3 a Lefel Uwch.

Rheoli atyniadau twristiaid

Lletygarwch

Gwestai

Twristiaeth gynaliadwy

Digwyddiadau

Iaith a diwylliant Cymru

a llawer mwy!

Yn Ail-lunio Lletygarwch, Addysg, a Chynaliadwyedd.

Yn Cyflwyno Academi Portmeirion – parth dysgu ac addysgu newydd ym Mhentref Portmeirion sy’n cynnwys man dysgu a adeiladwyd yn bwrpasol, cegin i hyfforddi cynhyrchu cynaliadwy, offer dysgu ymdrochol, golchdy hyfforddi, a llety i staff.

Dechreuwch Eich Taith Heddiw

Defnyddiwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn yr Academi Croeso neu i ofyn unrhyw gwestiynau

Name

Ein Partneriaid

Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.