Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd

Rhagoriaeth ym maes Arlwyo. Lletygarwch Gwych.

Busnes lletygarwch teuluol yw Snowdonia Hospitality and Leisure Ltd ac mae wedi ennill gwobrau lawer dros gyfnod o 50 mlynedd.

Sefydlwyd y busnes yn 1971 ac mae ganddo dri gwesty: Gwesty’r Waterloo, Gwesty’r Royal Oak a’r Stables Lodge ym Metws-y-Coed, ynghyd â’r Stablau sy’n fusnes bwyd a diod.

Cyfleoedd Hyfforddi

Ymysg y prentisiaethau y bydd yr Academi Croeso yn eu cynnig yn Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd bob blwyddyn bydd prentisaethau Lefel 2, Lefel 3 a Lefel Uwch.

Rheoli ym maes Lletygarwch

Hyfforddiant mewn gwesty

Hyfforddiant mewn bwyty

Rheoli Digwyddiadau

Digideiddio

Cynaliadwyedd

a llawer mwy!

Cyfleusterau

Mae Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd yn cynnig cyfleusterau arbennig, gan gynnwys llety modern i staff a phrentisiaid sy’n eu galluogi i aros yn agos i’w gweithle a’i ddefnyddio pan nad ydynt yn gweithio.

Dechreuwch Eich Taith Heddiw

Defnyddiwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn yr Academi Croeso neu i ofyn unrhyw gwestiynau

Name

Ein Partneriaid

Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.