Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalentau creadigol!
Yn ddiweddar cafodd Theatr Clwyd ei hailddatblygu ac fe fydd yn chwarae rhan allweddol yn yr Academi Croeso drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi amrywiol ar draws y sector ymwelwyr, twristiaeth celf a diwylliant, a lletygarwch. Bydd cyfleoedd ar gael mewn meysydd fel creu theatr, dylunio setiau, marchnata a chyfathrebu, rheoli dyletswyddau, gwerthu, rheoli digwyddiadau, a lletygarwch ac arlwyo.
Bydd y cydweithio’n dod â chreadigrwydd ym maes theatr a bwyd a diod at ei gilydd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalentau.
Cyfleoedd Hyfforddi
Bydd yr Academi Croeso'n cydweithio â Theatr Clwyd i gynnig nifer o brentisiaethau bob blwyddyn ym mhob maes yn ymwneud â'r celfyddydau, twristiaeth a lletygarwch.
a llawer mwy!
Cyfleusterau Creadigol o’r Radd Flaenaf
Gyda chyfleusterau theatr arbenigol, cyfleusterau hyfforddi pwrpasol yn ogystal â mannau penodol i bobl ifanc, bydd y ddarpariaeth newydd yn Sir y Fflint ac yn Neuadd William Aston yn Wrecsam yn denu cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol drwy gyfleoedd hyfforddi a swyddi.
Dechreuwch Eich Taith Heddiw
Defnyddiwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn yr Academi Croeso neu i ofyn unrhyw gwestiynau
Adnoddau defnyddiol eraill
Ein Partneriaid
Ariennir y prosiect yn rhannol gan gynllun Bargen Twf y rhanbarth a ddarparir gan Uchelgais Gogledd Cymru. Cytundeb yw Bargen Twf Gogledd Cymru a fydd yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn yn economi'r rhanbarth. Ariennir £240m o'r swm hwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Hwb ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes llawn.